Lleoliad:
Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 28 Mehefin 2022
Amser: 09.00 - 09.36
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Siân Gwenllian AS Russell George AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar, roedd Russell George yn bresennol yn ei le.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cafodd y Pwyllgor Busnes drafodaeth bellach am y mater o gyfranogi o bell mewn trafodion, yn benodol a ddylid nodi bod gan Aelodau hawl i gyfranogi o bell a'r disgwyliadau mewn perthynas â phresenoldeb Gweinidogion mewn pwyllgorau. Cytunodd y Pwyllgor i ddychwelyd at y materion hyn wrth gytuno ar y cynigion terfynol yn y cyfarfod nesaf.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Dydd Mawrth
Nododd y Trefnydd fod y Llywodraeth wedi aildrefnu busnes dydd Mawrth ac y bydd y dadleuon a'r cyfnod pleidleisio yn cael eu cynnal ar ddiwedd y sesiwn, yn dilyn gohirio darlith gyfansoddiadol a drefnwyd yn flaenorol ar gyfer y noson hon.
Dydd Mercher
Cadarnhaodd y Llywydd amseriad Datganiad Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, gan gynnwys y bydd gan y siaradwr cyntaf o'r grŵp Llafur hyd at bum munud ar gyfer eu cyfraniad.
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 12 Gorffennaf 2022 -
· Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod yr eitemau a ganlyn gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (30 munud)
o Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Tenantiaethau Cymdeithasau Tai: Darpariaethau Sylfaenol) 2022
o Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022
o Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12) 2022
o Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio) 2022
· Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2022 (10 munud)
· Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022 (30 munud)
· Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â'r UE) (Rhif 2) 2022 (15 munud)
· Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2022 (10 munud)
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 12 Medi 2022 –
3.4 Dadleuon ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau - dethol cynnig i’w drafod
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ddydd Mercher 6 Gorffennaf 2022:
NNDM8038 Luke Fletcher
NNDM8038
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i wahardd cymalau 'dim anifeiliaid anwes' mewn llety rhent.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) cyflwyno cytundeb tenantiaeth safonol tebyg i gytundeb tenantiaeth enghreifftiol Senedd y DU a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2021;
b) cynnig cyfres o fesurau a fyddai'n sicrhau nad yw perchnogion anifeiliaid anwes cyfrifol yn cael eu trin yn annheg o ganlyniad i'r math o lety y maent yn byw ynddo;
c) caniatáu mai'r sefyllfa ddiofyn gyfreithiol yw caniatáu anifeiliaid anwes mewn tai cymdeithasol a'r sector rhentu preifat, oni bai bod rheswm y gellir ei gyfiawnhau dros beidio â gwneud hynny;
d) ymestyn caniatáu anifeiliaid anwes mewn llochesi a llety i bobl ddigartref.
4 Deddfwriaeth
4.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Trafododd y Pwyllgor Busnes y cais gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Chyfansoddiad am newidiadau i'r amserlen arfaethedig ar gyfer craffu ar Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) a chytunodd i ymestyn y terfynau amser ar gyfer cyflwyno adroddiadau ar yr Ystyriaeth Gychwynnol hyd at 16 Rhagfyr 2022 ac Ystyriaeth Fanwl gan Bwyllgor hyd at 3 Mawrth 2023.
4.2 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus
Trafododd y Pwyllgor Busnes y cais gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus am estyniad i'r terfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiad ar y Memorandwm ar y Bil Caffael a chytunodd i ymestyn y terfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiadau hyd at 10 Tachwedd 2022.
5 Trefniadau cyflwyno
5.1 Trefniadau Cyflwyno yn ystod Toriad yr Haf 2022
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y trefniadau ar gyfer cyflwyno busnes y Cyfarfod Llawn a’r trefniadau ar gyfer cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig yn ystod toriad yr haf .
6 Y Rheolau Sefydlog
7.1 Adolygiad o Reol Sefydlog 12.41 A-H ar Bleidleisio Drwy Ddirprwy
Trafododd y Pwyllgor Busnes y Rheolau Sefydlog dros dro (12.41A-H) ar bleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer absenoldeb rhiant a chytunodd i gynnig i'r Senedd y caiff y rhain eu hymestyn tan 1 Ebrill 2023 er mwyn galluogi adolygiad llawn o'r darpariaethau yn ddiweddarach, ar ôl i'r adolygiad presennol o Reol Sefydlog 34 a chyfranogi o bell ddod i ben.